– Advertisement –
Mighty Web Hosting banner

Y Swyddfa Gartref yn cadarnhau cynlluniau Gwesty Parc y Strade

ccc 1
ccc 1

Yn dilyn gofyn sawl gwaith am wybodaeth, mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi derbyn cadarnhad ysgrifenedig gan y Swyddfa Gartref y prynhawn yma o’i chynllun i letya ceiswyr lloches yng Ngwesty Parc y Strade yn Llanelli o 3 Gorffennaf 2023.

Yn y cynllun a ddarparwyd gan y Swyddfa Gartref, sydd wedi cael ei anfon i Fwrdd Iechyd Hywel Dda, Heddlu Dyfed-Powys, a Gwasanaeth Tân Canolbarth a Gorllewin Cymru, bydd uchafswm o 207 o bobl, a fydd yn grwpiau teuluol, yn cael eu lletya mewn 77 o ystafelloedd.

Mae’r Cyngor Sir yn gadarn yn erbyn newid defnydd Gwesty Parc y Strade ac yn parhau i ymchwilio i’r sefyllfa gyfreithiol o ran y bwriad hwn.

Dywedodd y Cynghorydd Darren Price, Arweinydd Cyngor Sir Caerfyrddin: “Rwy’n credu ei fod yn warthus fod y bwriad hwn gan y Swyddfa Gartref i letya nifer fawr o geiswyr lloches yn mynd yn ei flaen. Hyd yn oed ar yr adeg hon, rwy’n galw ar berchnogion y gwesty, Sterling Woodrow, i ailfeddwl ac atal hyn rhag symud ymlaen.”

Dywedodd y Fonesig Nia Griffith, Aelod Seneddol: “Mae hyn yn destun pryder mawr a byddaf yn parhau i wrthwynebu unrhyw gynllun o’r fath yn gadarn dros ben, a chyfleu’n glir y gwrthwynebiad hynod gryf sydd ymysg pobl leol.”

Y Swyddfa Gartref sy’n gwneud y penderfyniad hwn ac felly dylid cyfeirio pob ymholiad i’r wasg at y Swyddfa Gartref drwy ffonio 0300 123 3535. 

If you like our content,
consider buying us a coffee
to keep our news free

Leave a Reply

Related Posts

If you like our content, consider buying us a coffee to keep our news free

vhs to dvd ltd advert
mighty web hosting advert
Secret Link