– Advertisement –

Plant Ysgol Gynradd Abbey yn serennu mewn seremoni agor swyddogol

Abbey 10 min 1024x683 1

Cafodd Ysgol Gynradd Abbey, sy’n werth £11m, ei hagor yn swyddogol mewn seremoni a gynhaliwyd ddydd Gwener (5 Mai).

Gwahoddwyd disgyblion, staff a gwesteion arbennig i’r seremoni ble datgelwyd plac gan Jeremy Miles AS, Gweinidog Llywodraeth Cymru dros Addysg a’r Iaith Gymraeg.

Fe wnaeth sawl disgybl adrodd barddoniaeth, canu caneuon a siarad am bwysigrwydd yr ysgol newydd iddyn nhw, fel rhan o’r seremoni agoriadol.

Photo caption: Photos taken from the opening ceremony

Mae gan yr ysgol cyfrwng Saesneg, a leolir ar  safle cyn-ysgol Gyfun Isaf Dŵr-y-felin, le ar gyfer 420 o ddisgyblion cynradd a 50 disgybl yn y meithrin. Daw’r ysgol yn lle’r hen Ysgol Gynradd Abbey a rannwyd dros dri safle.

Mae’r ysgol newydd yn cynnwys canolfan asesu blynyddoedd cynnar â lle i 12 disgybl, ac mae hefyd yn elwa o leoliad gofal plant â lle i 32.

Photo caption: Photos taken from the opening ceremony

Bydd yr Ysgol Gynradd Abbey newydd yn parhau i wasanaethu’r dalgylch presennol, a bydd yn ddigon mawr i gynnwys y twf arfaethedig mewn niferoedd disgyblion yn lleol. 

Yn ôl y Cynghorydd Nia Jenkins, Aelod Cabinet Cyngor Castell-nedd Port Talbot dros Addysg, Sgiliau a Hyfforddiant: “Wrth i ni agor Ysgol Gynradd Abbey o’r newydd yn swyddogol, rydyn ni’n dathlu nid yn unig y cyfleusterau blaengar ond hefyd y dyfodol llachar y mae’n ei gynrychioli ar gyfer plant ein cymuned.

Photo caption: Photos taken from the opening ceremony

“Gyda’i chynllun modern, a’i hadnoddau rhagorol, bydd yr ysgol 21ain ganrif hon yn darparu amgylchedd ddysgu eithriadol i’n pobl ifanc, gan eu galluogi i ffynnu a chyflawni’u potensial yn llawn.”

Adeiladwyd y prosiect gan BAM Construction Ltd, ar gost o £11m, y darparwyd 65% o hwnnw gan Raglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy Llywodraeth Cymru. Ariannwyd y gweddill drwy gyfrwng cyfleuster benthyca darbodus y cyngor.

If you like our content,
consider buying us a coffee
to keep our news free

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

If you like our content, consider buying us a coffee to keep our news free

Secret Link
Exit mobile version