Os yw’ch plentyn yn ystyried gadael y coleg neu’r chweched dosbarth, gall fod yn anodd gwybod beth i’w ddweud neu beth yw’r ffordd orau o’i gefnogi.
Gall dechrau yn y coleg neu’r chweched dosbarth deimlo fel cam mawr ac efallai y bydd rhai dysgwyr yn cwestiynu eu penderfyniad, yn enwedig yn ystod yr ychydig wythnosau a misoedd cyntaf.
Nid yw teimlo wedi eu llethu, cael trafferth gyda gwaith cwrs, poeni am arian neu amau ai’r cwrs yw’r dewis iawn o reidrwydd yn golygu mai gadael yw’r opsiwn gorau.
I lawer o rieni, gall fod yn anodd gwybod sut orau i gefnogi eu plentyn wrth i’r person ifanc ystyried ei opsiynau a phenderfynu beth i’w wneud nesaf.
Mae Claire O’Brien, cynghorydd gyrfa yn Gyrfa Cymru, yn rhannu saith ffordd ymarferol y gall rhieni helpu eu plentyn i ddatrys ei bryderon a gwneud penderfyniad gwybodus.
1. Gwrandewch yn gyntaf
Os yw’ch plentyn yn dweud ei fod yn ystyried gadael, ceisiwch ddeall beth sydd y tu ôl i’r teimladau hynny. A yw’r cwrs yn wahanol i’r hyn roedd wedi ei ddisgwyl? Ydyw’n cael trafferth gyda’r llwyth gwaith neu ofynion cymdeithasol y coleg? A yw pethau y tu allan i’r cwrs yn effeithio ar sut y mae’n teimlo?
Gall rhoi’r cyfle iddo siarad yn agored ei helpu i deimlo ei fod yn cael cefnogaeth a gall ddatgelu atebion nad ydyn nhw wedi cael eu hystyried eto.
2. Cofiwch fod amheuaeth yn normal
Gall symud o’r ysgol i’r coleg neu’r chweched dosbarth fod yn addasiad mawr. Gall gymryd amser i ddod i arfer ag amgylchedd newydd, gwahanol arddulliau addysgu, pobl newydd, mwy o annibyniaeth a disgwyliadau uwch.
Mae llawer o bobl ifanc yn profi cyfnodau o ansicrwydd cyn setlo i mewn i’w cwrs a’u trefn arferol.
3. Helpwch eich plentyn i nodi’r broblem
Efallai y bydd person ifanc yn dweud ei fod eisiau gadael, ond efallai nad y cwrs ei hun yw’r broblem.
Gallai fod yn cael trafferth gyda hyder, cyllid, teithio, cyfeillgarwch, llwyth gwaith, cyfrifoldebau teuluol neu lesiant meddyliol. Gall deall yr hyn sydd wrth wraidd y broblem helpu i nodi’r gefnogaeth gywir.
4. Rhowch sicrwydd iddyn nhw fod pobl eraill ar gael i’w cefnogi.
Does dim rhaid iddo weithio trwy heriau ar ei ben ei hunan.
Yn aml, gall tiwtoriaid, timau cymorth myfyrwyr, cynghorwyr gyrfa a gwasanaethau llesiant ddarparu cymorth ymarferol, sicrwydd neu opsiynau amgen nad yw’ch plentyn o bosibl yn ymwybodol ohonynt.
5. Archwiliwch y dewisiadau eraill gyda’ch gilydd
Yn aml nid gadael cwrs yw’r unig opsiwn.
Yn dibynnu ar yr amgylchiadau, efallai y bydd cyfleoedd i newid cwrs, cael mynediad at gymorth ychwanegol, ystyried llwybr dysgu gwahanol neu archwilio llwybrau eraill sy’n gweddu’n well i’w ddiddordebau a’i nodau. Y peth pwysig yw deall yr holl opsiynau cyn gwneud penderfyniad.
6. Canolbwyntio ar ei amcanion hirdymor
Pan fydd person ifanc dan straen neu’n anhapus, mae’n hawdd canolbwyntio ar y broblem uniongyrchol.
Gall siarad am ei uchelgeisiau ar gyfer y dyfodol helpu i roi penderfyniadau mewn cyd-destun. Ystyriwch sut y gallai gwahanol opsiynau gefnogi ei gynlluniau addysg, hyfforddiant neu yrfa tymor hwy. Gall hyn ei helpu i wneud dewis mwy gwybodus yn hytrach nag un brysiog.
7. Anogwch eich plentyn i geisio cymorth
Yn aml, gall sgwrs ddiduedd wneud yr holl wahaniaeth.
Gall cynghorydd gyrfa helpu pobl ifanc i archwilio eu pryderon, deall eu hopsiynau a gwneud penderfyniadau hyderus ynghylch beth i’w wneud nesaf. Mae cymorth ar gael wyneb yn wyneb, dros y ffôn neu ar-lein.
Ac yn olaf, cofiwch: does dim angen rhuthro i wneud penderfyniad mor bwysig. Gall cymryd amser i drafod pryderon, ceisio cymorth ac archwilio’r holl opsiynau sydd ar gael helpu person ifanc i ddeall beth allai pob dewis ei olygu a phenderfynu ar y ffordd orau ymlaen.
I gael rhagor o wybodaeth am y cymorth gyrfa diduedd am ddim sydd ar gael, cysylltwch â Gyrfa Cymru.
