– Advertisement –
Mighty Web Hosting banner

Plaid Cymru Sir Gaerfyrddin yn trafod polisi gydag undeb amaeth

Ymgeiswyr Plaid Cymru Sir Gaerfyrddin yn trafod polisi gydag undeb amaeth

Bu trafodaeth am rhwng Huw James, Cadeirydd Sir Gaerfyrddin o Undeb Amaethwyr Cymru, Ian Rickman, Llywydd Undeb Amaethwyr Cymru ac ymgeiswyr Plaid Cymru yn Sir Gaerfyrddin i’r Senedd am faterion allweddol sy’n effeithio ar amaeth yn ystod ymweliad â fferm Tyddyn ger Llanwinio heddiw (dydd Gwener, 27 Mawrth).

Defnyddiodd Cefin Campbell, Nerys Evans, Adam Price a Mari Arthur – sy’n sefyll i fod yn Aelodau Plaid Cymru o’r Senedd dros Sir Gaerfyrddin yn yr etholiad ar 7 Mai – y cyfle i amlinellu rhaglen bolisi eu plaid ar gyfer llywodraeth.

Ymhlith rhain mae sicrhau cyllid aml-flwyddyn ar gyfer ffermydd, mynd i’r afael â TB, comisiynu adolygiad ar fiwrocratiaeth yn y sector a diwygio rheoliadau NVZ.

Dywedodd Nerys Evans, sy’n ail ar restr Plaid Cymru yn Sir Gaerfyrddin:

“Roedd hi’n dda cael y cyfle heddiw i glywed am y pynciau llosg, pryderon a gobeithion y ffermwyr sy’n cael eu cynrychioli gan Undeb Amaethwyr Cymru. Rydym yn gwybod fod Llafur wedi gadael cefn gwlad Cymru i lawr am yn rhy hir ac mae angen newid.

“Rwy’n hyderus fod y rhaglen bolisi amaeth sydd wedi’i amlinellu gan Blaid Cymru yn gynnig ymarferol, effeithiol i fynd i’r afael â’r heriau sy’n wynebu’r ffermydd teuluol a’r cymunedau sy’n ddibynnol arnynt a sicrhau fod dyfodol llewyrchus i’r cenedlaethau sy’n dod.”

Yn dilyn yr ymweliad, dywedodd Cadeirydd Undeb Amaethwyr Cymru Sir Gaerfyrddin, Huw James:

“Roedd yn bleser croesawu Cefin, Nerys, Adam a Mari i Dyddyn, a chael y cyfle i drafod y realiti sy’n wynebu ffermydd teuluol yma yn Sir Gaerfyrddin.

“Mae ffermwyr yn delio ag ansicrwydd sylweddol – o newidiadau parhaus i gynlluniau cymorth i effaith ddinistriol TB mewn gwartheg – ac mae’n hanfodol bod polisïau’r dyfodol yn darparu sefydlogrwydd, tegwch a gweledigaeth hirdymor glir i’n diwydiant.

“Nid yn unig mae ffermio yn ganolog i gynhyrchu bwyd: mae’n sail i les economaidd, cymdeithasol a diwylliannol ein cymunedau gwledig. Mae cefnogi’r sector yn golygu cefnogi’r cymunedau sy’n dibynnu arno, a sicrhau y gallent barhau i ffynnu i’r dyfodol.”

If you like our content,
consider buying us a coffee
to keep our news free

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

Related Posts

If you like our content, consider buying us a coffee to keep our news free

mighty web hosting advert
vhs to dvd ltd advert
Secret Link