– Advertisement –
Mighty Web Hosting banner

Diffoddwr Tân Ar Alwad yn mynd ar daith gerdded elusennol 24 milltir ddydd Sul y Pasg!

Ddydd Sul, 20 Ebrill, bydd y Diffoddwr Tân Ar Alwad Rhys Fitzgerald o Orsaf Dân Cydweli yn mynd ar daith gerdded Sul y Pasg, 24 milltir, i ymarfer ar gyfer dringo i ben Mynydd Everest yn ddiweddarach eleni.

Bydd y daith gerdded yn cychwyn am 8yb o Orsaf Dân Cydweli ac yn cynnwys sawl stop i ymlacio ar hyd y ffordd, gan gynnwys yng Ngorsaf Dân Llanelli, cyn gorffen yng Ngorsaf Dân Sgeti yn Abertawe. 

Mae Rhys yn ymgymryd â’r heriau hyn i helpu i hyrwyddo manteision treulio amser yn yr awyr agored a’r effaith gadarnhaol y mae’n ei gael ar eich iechyd meddwl a chorfforol a’ch lles, gyda’r bonws o godi arian ac ymwybyddiaeth o dri achos teilwng. 

Mae Rhys yn croesawu unrhyw un a hoffai ymuno ag ef ar hyd y ffordd, a dywedodd:

“P’un ai eich bod yn cerdded milltir neu’r 24 milltir llawn, bod yn yr awyr agored sy’n bwysig! Dewch draw i ymuno â’r daith gerdded deuluol hon i godi arian a dod i adnabod rhai o’r diffoddwyr tân sy’n helpu i gadw cymuned Canolbarth a Gorllewin Cymru yn ddiogel yr un pryd!” 

Mae Rhys yn codi arian drwy GoFundMe, a bydd yr holl elw’n cael ei rannu rhwng talu am gost taith Everest, ynghyd â chael ei roi i’w elusennau dewisol.

Mae croeso i bawb ymuno â Rhys ar ei antur, a byddai unrhyw gyfraniad yn cael ei werthfawrogi’n fawr.

I gael rhagor o wybodaeth am y digwyddiad a’r llwybr, ewch i: https://www.mawwfire.gov.uk/cym/digwyddiadau/

Pob lwc Rhys!

If you like our content,
consider buying us a coffee
to keep our news free

Leave a Reply

Related Posts

If you like our content, consider buying us a coffee to keep our news free

mighty web hosting advert
vhs to dvd ltd advert
Secret Link