– Advertisement –
Mighty Web Hosting banner

Caffi artisan newydd sbon yn agor yn Nhonna

Neath Logo
Neath Logo

Mae hen dŷ tafarn segur oedd wedi dechrau mynd yn adfail yn Nhonna wedi cael bywyd newydd, a bydd yn agor ei ddrysau i’r cyhoedd unwaith eto ar ôl cael ei adnewyddu’n llwyr diolch i grant oddi wrth Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.

Mae’r adeilad, yr arferid ei alw’n Old Railway Tavern, wedi bod yn wag ers rhai blynyddoedd a dioddefodd gan lifogydd cyn i deulu Booth ei brynu, a mynd ati i adfer yr adeilad yn dyner i ail-sefydlu’r gogoniant a fu.

Bellach, fe’i trawsnewidiwyd yn gaffi artisan, a redir gan y teulu, gyda dwy fflat hunangynhaliol ar gyfer gwyliau ar y llawr cyntaf.

Mewn lleoliad hyfryd ar lan Camlas Castell-nedd yn Nhonna, mae’r caffi newydd, sy’n croesawu cŵn, bellach yn mynd o dan yr enw Booths by the Bridge, a bydd yn cael ei reoli gan y bartneriaeth brawd a chwaer Hannah ac Aaran Booth, ynghyd â phartner Aaran, Rachel Bevan.

Bydd yn agor am y tro cyntaf i fasnachu ddydd Gwener 24 Ionawr, gan weini detholiad o deisennau, nwyddau a bobwyd, nwyddau toes a dewis o Goffi Coaltown. Bydd y caffi ar agor o ddydd Iau tan ddydd Llun, 8am tan 4pm. 

Fe wnaeth y prosiect cyfalaf i adnewyddu’r adeilad gynnwys tynnu popeth allan a’i aildrefnu, a chafodd yr adeilad ei ddiweddaru drwyddi draw, gan gynnwys sawl mesur i warchod rhag llifogydd. Defnyddiwyd deunyddiau cynaliadwy a gosodiadau ynni-isel yn yr adeilad i gyd, gan sicrhau y bydd y busnes newydd yn ynni-effeithlon.

Ar y tu fas, gosodwyd to newydd, rhoddwyd arwyneb newydd i’r maes parcio, a chafodd yr adeilad cyfan got newydd o baent – yn llythrennol – gan roi gwedd ffres a modern iddo.  

Bydd y busnes newydd yn creu 11 o swyddi newydd i’r ardal leol, ac mae’r teulu’n edrych ymlaen at ddarparu canolbwynt cymunedol clyd i breswylwyr ac ymwelwyr, gan annog mwy o bobl i fwynhau mynd am dro ar lan y gamlas ac yna cwrdd am goffi, teisen a chroeso cynnes wedyn. 

Ariannwyd y prosiect adnewyddu cyfalaf yn rhannol gan Gronfa Ffyniant Cymoedd a Phentrefi (VVPF) Cyngor Castell-nedd Port Talbot drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU (UKSPF).

Derbyniodd y prosiect arian grant ychwanegol ar gyfer offer a hyfforddi staff gan Grantiau Cychwyn Busnes a Buddsoddi mewn Busnes UKSPF.

Roedd y VVPF a’r Grantiau Cychwyn Busnes a Buddsoddi mewn Busnes yn ffurfio rhan o becyn o gynlluniau grant oedd ar gael yn ystod 2023 a 2024 gan Gyngor Castell-nedd Port Talbot, diolch i Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.  

Dywedodd y perchennog, Hannah Booth“Mae hi wedi bod yn flwyddyn eithriadol o brysur i ni fel teulu, ond rydyn ni mor falch o ran sut mae’r prosiect wedi datblygu, ac allwn ni ddim ag aros nawr i groesawu’r gymuned leol ac ymwelwyr drwy ein drysau o’r diwedd.

“Ein nod oedd creu lle clyd ble mae pawb yn teimlo croeso, ble gallan nhw fwynhau disied gyda ffrindiau. Mae gyda ni gynlluniau mawr ar gyfer y dyfodol a sut y bydd y lle’n esblygu, ond am y tro, am fod hyn yn newydd sbon i ni, byddwn ni’n agor gyda nwyddau crwst, teisennau a choffi o safon uchel wrth i ni gael ein traed danom. Rydyn ni mor ddiolchgar am yr holl gefnogaeth a gawsom, yn enwedig oddi wrth Gronfa Ffyniant Cyffredin y DU, y byddai trawsnewidiad ar y raddfa hon ddim wedi bod yn bosib hebddi.”

Ychwanegodd y Cynghorydd Jeremy Hurley, Aelod Cabinet dros Newid Hinsawdd a Thwf Economaidd yng Nghyngor Castell-nedd Port Talbot: “Dyna wych gweld busnes teuluol newydd yn cael ei greu ac adeilad amlwg oedd wedi mynd â’i ben iddo’n cael dod yn ôl yn fyw, a’r cyfan yn rhan o’r un prosiect – dyma ddefnydd gwych o Gyllid Ffyniant Cyffredin i’r gymuned yn Nhonna. Hoffwn ddymuno’r gorau oll i’r teulu yn eu menter newydd, ac edrychaf ymlaen at gael dod ar ymweliad pan fydd y busnes wedi agor.”

If you like our content,
consider buying us a coffee
to keep our news free

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

Related Posts

If you like our content, consider buying us a coffee to keep our news free

vhs to dvd ltd advert
mighty web hosting advert
Secret Link