– Advertisement –
Mighty Web Hosting banner

Côr roc a phop yn codi dros £4,000 i Ysbyty Tywysog Philip

Mae Côr Roc a Phop Phil Harmonics wedi codi swm gwych o £2,000 ar gyfer yr Uned Gofal y Fron a £2,000 ar gyfer Uned Ddydd Cemotherapi Ysbyty Tywysog Philip.

 

Mae’r Phil Harmonics yn gôr sy’n codi arian at achosion da, ac maen nhw wedi codi dros £60,000 yn y naw mlynedd diwethaf.

 

Dywedodd Sarah Mair Richards, Sylfaenydd ac Arweinydd The Phil Harmonics: “Cynhaliom Gala Elusennol yng Ngwesty’r Diplomat yn Llanelli ar 6ed Gorffennaf 2024 gyda dros 250 o westeion yn bresennol.

 

“Roedd yn noson lawen gydag adloniant a sioe gan The Phillies. Cefnogodd busnesau lleol ni yn hael gyda gwobrau raffl gwych. Gweithiodd y Phillies i gyd yn galed i’w wneud yn llwyddiant ysgubol. Roedd y noson yn gymaint o hwyl gyda llawer o gyfranogiad gan y gynulleidfa!

 

“Rydym yn dewis elusennau sy’n agos at ein calonnau ac yn lleol bob blwyddyn. Rydym yn falch iawn o gefnogi Elusennau Iechyd Hywel Dda eto. Diolch i’r holl fusnesau lleol a gyfrannodd wobrau raffl a’r holl westeion a ddaeth draw.”

 

Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda: “Diolch yn fawr iawn i’r Phil Harmonics am ein cefnogi gyda’ch Gala Elusennol. Bydd eich rhodd yn gwneud gwahaniaeth mawr i gleifion yn Ysbyty Tywysog Philip.

 

“Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”

 

I gael rhagor o fanylion am elusen y GIG a sut y gallwch chi helpu i gefnogi cleifion a staff lleol y GIG, ewch i: www.hywelddahealthcharities.org.uk

If you like our content,
consider buying us a coffee
to keep our news free

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

Related Posts

If you like our content, consider buying us a coffee to keep our news free

mighty web hosting advert
vhs to dvd ltd advert
Secret Link