– Advertisement –

VAUGHAN GETHING YN TANSEILIO SWYDDFA PRIF WEINIDOG CYMRU, meddai Plaid Cymru

Ymhen y bleidlais yfory o ddiffyg hyder yn Vaughan Gething, Prif Weinidog Cymru, dywedodd arweinydd Plaid Cymru Rhun ap Iorwerth AS:

“Wrth dderbyn rhodd o £200k gan unigolyn oedd yn euog o droseddau llygredd, mae’r Prif Weinidog wedi tanseilio ei swyddfa ei hun a hyder pobl Cymru yn ei allu i lywodraethu.

“Ar adeg pan fo ymddiriedaeth mewn gwleidyddiaeth yn isel, mae unrhyw ganfyddiad o ddylanwad allanol yn y broses mae Llywodraeth Lafur Cymru yn gwneud penderfyniadau yn erydu hyder y cyhoedd.

“Mae amharodrwydd y Prif Weinidog i gyfaddef i’w ddiffyg crebwyll sylweddol yn golygu agwedd di-ofal bryderus.

“Hyd yn oed pan gynigiodd cydweithiwr Llafur i’w helpu i ad-dalu’r rhodd amheus, gwrthododd y cynnig, gan brofi ymhellach nad yw’n deall y dicter a deimlwyd gan bobl Cymru.

“Mater i’r blaid Lafur yw hi, a Keir Starmer yn y pendraw fydd yn penderfynu tynged y Prif Weinidog. Mae p’un a yw rhai o aelodau Llafur yn dal eu trwynau neu’n ailddatgan eu hanhapusrwydd ar ffynhonnell y rhodd trwy gefnogi pleidlais o ddiffyg hyder yn fater iddyn nhw.”

If you like our content,
consider buying us a coffee
to keep our news free

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

If you like our content, consider buying us a coffee to keep our news free

Secret Link
Exit mobile version