– Advertisement –
Mighty Web Hosting banner

Datganiad ar Ysgol Heol Goffa, Llanelli

ccc 300x66 1
ccc 300x66 1

Nid yw Cyngor Sir Caerfyrddin yn gallu parhau â’i gynlluniau presennol i adeiladu ysgol
arbennig newydd yn Llanelli, i gymryd lle ysgol bresennol Ysgol Heol Goffa, oherwydd pwysau ariannol.

Rhoddwyd gwybod i’r Pennaeth, Miss Ceri Hopkins, a llywodraethwyr yr ysgol am
benderfyniad y Cyngor Sir mewn cyfarfod gyda’r Aelod Cabinet dros Addysg a’r Gymraeg, y Cynghorydd Glynog Davies, a swyddogion y Cyngor ddydd Iau, 9 Mai 2024.

Mae darparu gwasanaethau sy’n benodol i bob disgybl unigol ag anghenion dysgu ychwanegol yn parhau i fod yn flaenoriaeth uchel i Gyngor Sir Caerfyrddin. Mae penderfyniad wedi’i wneud i archwilio dulliau amgen sy’n cyd-fynd â gweledigaeth strategol y Cyngor Sir ac mae swyddogion wedi cael y dasg o ddatblygu cynigion amgen ar gyfer cynnig addysg darpariaeth arbennig yn Llanelli.

Disgwylir i’r Cyngor Sir gynnal asesiad llawn o’r adeilad ysgol presennol er mwyn nodi a gwneud gwelliannau i’r adeilad presennol.

Dywedodd Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Addysg a’r Gymraeg, y
Cynghorydd Glynog Davies: “Wrth ystyried yr hinsawdd economaidd bresennol a’r straen
ariannol ar yr Awdurdod Lleol, nid yw’r gost o adeiladu ysgol arbennig newydd i gymryd lle
Heol Goffa yn hyfyw yn ariannol.

“Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn credu’n gryf bod gan blant a phobl ifanc hawl sylfaenol i gael mynediad at addysg o safon a hoffwn sicrhau rhieni ein bod yn gweithio’n galed ar ddatblygu cynigion amgen a fydd yn gwasanaethu anghenion ein dysgwyr gan gyd-fynd yn agosach â gweledigaeth strategol y Cyngor a Rhaglen Trawsnewid ADY Llywodraeth Cymru.”

Dywedodd Pennaeth Ysgol Heol Goffa, Miss Ceri Hopkins: “Fel ysgol, rydym yn amlwg yn
siomedig iawn â phenderfyniad y Cyngor i beidio â bwrw ymlaen â chynlluniau i ddatblygu
adeilad ysgol newydd mawr ei angen ar gyfer Heol Goffa.

“Yn anffodus, rydym ni i gyd yn ymwybodol iawn o’r pwysau ariannol difrifol sy’n wynebu pawb, gan gynnwys y Cyngor Sir. Wedi dweud hynny, byddwn yn gweithio’n agos gyda’r Cyngor ar ôl cael sicrwydd y bydd gwelliannau’n cael eu gwneud i wella ein hadeilad ysgol presennol, ac rydym yn edrych ymlaen at gynlluniau’r dyfodol ar gyfer cynnig addysg darpariaeth arbennig sy’n briodol i ddiwallu anghenion y dysgwyr mwyaf agored i niwed ar draws yr awdurdod.”

If you like our content,
consider buying us a coffee
to keep our news free

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

Related Posts

If you like our content, consider buying us a coffee to keep our news free

vhs to dvd ltd advert
mighty web hosting advert
Secret Link