– Advertisement –
Mighty Web Hosting banner

Hufenfa De Arfon yn dathlu Dydd Gŵyl Dewi drwy deithio’r DU

Bu prif gwmni llaeth cydweithredol Cymru, Hufenfa De Arfon yn dathlu Dydd Gŵyl Dewi trwy ymweld â phencadlys prif archfarchnadoedd y DU i rannu danteithion caws a menyn Dragon.

 

Fel rhan o raglen Bwyd a Diod Cymru Llywodraeth Cymru i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi, aeth tîm Hufenfa De Arfon draw i brif swyddfeydd Tesco, Morrisons, Asda a Sainsbury’s, gan dynnu sylw at gynnyrch Cymreig a dathlu tapestri cyfoethog cynhyrchwyr Cymreig.

 

Nod rhaglen Bwyd a Diod Cymru yw meithrin sector bwyd a diod ffyniannus a deinamig yng Nghymru sy’n cael ei gydnabod yn fyd-eang am ei ragoriaeth.

Gan ddechrau eu gweithgareddau Dydd Gŵyl Dewi yng Nghymru gyda sioe fasnach Castell Howell yn y de, aethant ymlaen i Welwyn Garden City, Leeds, Bradford, Llundain gan gyfarfod â llunwyr penderfyniadau allweddol rhai o fanwerthwyr mwyaf y DU. Cafwyd taith wib cyn dychwelyd yn ôl i Gymru ar gyfer sioeau masnach Castell Howell a Harlech yn y gogledd.

 

Anfonwyd caws Dragon o gwmpas y byd hefyd, i Lysgenhadaeth Prydain yn Nhwrci ac India ar gyfer digwyddiadau Dydd Gŵyl Dewi.

 

Dywedodd Kirstie Jones, Rheolwr Marchnata Hufenfa De Arfon, “Ynghyd â chynhyrchwyr Cymreig hynod eraill, cychwynnom ar yr antur hon i rannu stori ein brand Dragon – symbol o dreftadaeth Gymreig, crefftwaith, ac ymroddiad heb ei ail ein ffermwyr.

 

“Roedd yn foment o falchder i ni gynrychioli hanfod Cymru, gan arddangos ein caws a menyn Cymreig hyfryd, a rhannu sut mae’r cynhyrchion hyn yn dyst i’r ansawdd a’r angerdd sy’n rhan o bob tamaid.

 

“Hoffem ddiolch i Tesco, Morrisons, Asda, Sainsbury’s a Llywodraeth Cymru am wneud y profiad hwn yn bosibl. Gobeithio y bydd llawer mwy o gyfleoedd i rannu cynnyrch gwych o Gymru gyda phawb.”

 

If you like our content,
consider buying us a coffee
to keep our news free

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

Related Posts

If you like our content, consider buying us a coffee to keep our news free

mighty web hosting advert
vhs to dvd ltd advert
Secret Link