– Advertisement –
Mighty Web Hosting banner

Sefydlu Gracie Jones yn Faer Ieuenctid newydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot

Mae Prif Weithredwr Cyngor Castell-nedd Port Talbot Karen Jones wedi sefydlu Gracie Jones fel Maer Ieuenctid newydd y cyngor mewn seremoni a gynhaliwyd yng Nghanolfan Ddinesig Port Talbot ar Ddydd Gŵyl Dewi 2024.

Mae Gracie, sy’n ddisgybl yn Ysgol Gatholig a Chanolfan Chweched Dosbarth St Joseph, Port Talbot, ac sy’n aelod o Gyngor Ieuenctid Castell-nedd Port Talbot, yn olynu’r Maer Ieuenctid blaenorol Maddie Pritchard.

Youth Mayor with Mayor 2024

Yn ei haraith dderbyn, dywedodd Gracie: “Hoffwn ddod â hyd yn oed ragor o ymgysylltu a chyd-ymwneud i ysgolion, grwpiau ieuenctid a phobl ifanc yn gyffredinol o ran clywed eu barn am yr ystod eang o faterion y bydd y Cyngor Ieuenctid yn gweithio arnyn nhw, fel casglu arolygon, ystadegau a chyfweliadau.

“Hoffwn hybu popeth mae’r Cyngor Ieuenctid yn ei wneud. Gyda fi a’r Cyngor Ieuenctid yn llais democrataidd pobl ifanc yr ardal leol, dwi eisiau datrys problemau a leisir hyd eithaf fy ngallu.

“Yn ôl arolygon mae’r cyngor ieuenctid wedi’u cynnal ymysg pobl ifanc ein hardal, mae iechyd rhywiol ymysg un o’r prif broblemau yr hoffai ieuenctid ei wella.

“Fel rhywun ifanc yng Nghastell-nedd Port Talbot, dwi, fel llawer o rai eraill, wedi clywed a gweld oblygiadau diffyg addysg ac ymwybyddiaeth o gwmpas iechyd rhywiol. Nid pawb sydd â rhywun i siarad â nhw, nid pawb sy’n derbyn cyngor dibynadwy.”

Yn y seremoni, urddwyd Jake Dorgan o Ysgol Gyfun Cefn Saeson fel Dirprwy Faer Ieuenctid eleni.

Etholir safle’r Maer Ieuenctid a’r Dirprwy Faer Ieuenctid yn flynyddol gan Gyngor Ieuenctid Castell-nedd Port Talbot i sicrhau fod pobl ifanc yn cael llais, ac yn gallu dweud eu barn am faterion lleol sy’n cyfri iddyn nhw.

Dywedodd y cyn-Faer Ieuenctid, Maddie Pritchard: “Mae’r Cyngor Ieuenctid yn syniad gwych yr ydw i’n falch iawn o fod yn rhan ohono, ac mae’r aelodau’n bobl ifanc eithriadol sydd eisiau gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i’n cymuned.

“Llongyfarchiadau i Gracie. Rwyt ti wedi bod yn Ddirprwy Faer Ieuenctid anhygoel dros y flwyddyn ddiwethaf, a dwi’n sicr fod y gorau eto i ddod.”

Dywedodd Maer Castell-nedd Port Talbot, y Cynghorydd Chris Williams: “Mae’n dal i fod mor bwysig ein bod ni’n clywed barn, syniadau a lleisiau’r holl blant a phobl ifanc ar draws gwaith y Cyngor.

“Mae Castell-nedd Port Talbot yn ymdrechu i fod yn lle ble mae lleisiau pobl ifanc yn cael clust, a ble maen nhw ar flaen y gad o ran ein gwaith. Mae gennym Gyngor Ieuenctid cryf eisoes, ac mae ychwanegu Maer Ieuenctid wedi gwella a chryfhau’r broses hon a chodi proffil pobl ifanc yn ein cymunedau.

If you like our content,
consider buying us a coffee
to keep our news free

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

Related Posts

If you like our content, consider buying us a coffee to keep our news free

vhs to dvd ltd advert
mighty web hosting advert
Secret Link