– Advertisement –

Cyngor yn Galw am Farn ar Strategaeth Dreftadaeth Ddrafft

Neath Logo

Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn gofyn i bobl leisio’u barn am ei strategaeth Dreftadaeth ddrafft sy’n ceisio codi ymwybyddiaeth am dreftadaeth eithriadol yr ardal, gan gynnwys ei phwysigrwydd economaidd, amgylcheddol a llesiannol.

Mae ‘Adfer, Adfywio, Ailbwrpasu; sef teitl y strategaeth ddrafft, yn amlinellu sut y bydd yn sicrhau cadwraeth, gwarchodaeth a chynaliadwyedd asedau treftadaeth Castell-nedd Port Talbot o 2023 tan 2038.

Y pum prif thema a amlinellir yn y cynllun gweithredu yw:

Deall treftadaeth a’i harwyddocâd

Cadw a buddsoddi mewn treftadaeth ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol

Gwneud yn fawr o dreftadaeth ac adeiladu arni

Rheolaeth gadarnhaol o dreftadaeth

Dathlu a hybu treftadaeth.

Ariannwyd datblygu’r strategaeth ddrafft gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, a bellach gall cymunedau, rhanddeiliaid a sefydliadau partner wneud sylwadau arni. Cyhoeddodd y Gronfa’n ddiweddar hefyd fod Castell-nedd Port Talbot yn un o blith naw ardal a ddetholwyd i elwa o gyfran o £200m i helpu i drawsnewid treftadaeth yr ardal drwy gyfrwng menter newydd Lleoedd Treftadaeth.

Meddai’r Cynghorydd Cen Phillips, Aelod Cabinet Cyngor Castell-nedd Port Talbot dros Natur, Twristiaeth a Llesiant: “Y neges glir gan ein preswylwyr yw y dylid rhoi mwy o flaenoriaeth i’n treftadaeth a’n diwylliant.

“Mae’r strategaeth ddrafft yn cydnabod sut mae ein hasedau treftadaeth yn chwarae rhan bwysig wrth gynyddu apêl y fwrdeistref sirol fel lle o fyw a gweithio ynddo, ymweld ag ef a buddsoddi ynddo. Gan weithio’n greadigol gyda rhanddeiliaid allweddol, mae’n amlinellu sut y gallwn ni reoli a gwarchod ein hamgylchedd hanesyddol.

“Mae gan y strategaeth ddrafft, ar y cyd â chyhoeddiad Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, y potensial i drawsnewid treftadaeth y fwrdeistref sirol.”

I ddysgu mwy am y strategaeth ac i ddweud eich dweud, ewch i: www.npt.gov.uk/consultations . Fel arall, gallwch ysgrifennu at Strategaeth Dreftadaeth Ddrafft, Tîm Adfywio, Cyngor Castell-nedd Port Talbot, Y Ceiau, Castell-nedd, SA11 2GG. Gellir cael copïau papur o’r strategaeth yng Nghanolfan Ddinesig Castell-nedd, Canolfan Ddinesig Port Talbot, a llyfrgelloedd cymunedol a llyfrgelloedd y cyngor.

Bydd yr ymgynghoriad yn cau ddydd Sul 5 Tachwedd 2023.

If you like our content,
consider buying us a coffee
to keep our news free

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

If you like our content, consider buying us a coffee to keep our news free

Secret Link
Exit mobile version