Mae dros 1500 o ddisgyblion o bob cwr o Gastell-nedd Port Talbot wedi mynychu cyfres o weithdai gyda’r nod o ddatblygu sgiliau diogelwch hanfodol.
Mae’r Criw Hanfodol (Crucial Crew), sydd wedi bod yn digwydd yn flynyddol am dros 25 mlynedd, wedi dychwelyd wyneb yn wyneb eleni, ar ôl dwy flynedd o gynnal sesiynau rhithiol oherwydd pandemig COVID.
Cynhaliwyd y digwyddiad dros gyfnod o bythefnos yn Nhŷ Ffrwd-wyllt, Tai-bach, ac roedd yn cynnwys 50 o ysgolion cynradd.
Bu’r disgyblion Blwyddyn 6 yn cylchdroi rhwng 10 gweithdy gwahanol oedd yn para 10 munud yr un, a phob gweithdy’n darparu negeseuon allweddol ar bynciau fel sut i daclo peryglon, chwarae’n ddiogel, beth i’w wneud os oes tân a sut i aros yn ddiogel ar yr heol. Mae’r gweithdai’n gweld disgyblion yn gorfod cwblhau sawl tasg a delio â sefyllfaoedd penodol y gallen nhw gael eu hunain ynddynt yn eu bywydau beunyddiol.
Ymysg y sefydliadau oedd yn darparu’r gweithdai yn nigwyddiad eleni roedd: Heddlu De Cymru, Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, Western Power, RNLI, Yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Network Rail, Calan DVS, Dogs Trust, Diogelwch Ffyrdd CnPT. Roedd digwyddiad eleni hefyd yn cynnwys gweithdai a ddarparwyd gan Addysgwyr Cyfoed o Ysgol Cwm Brombil wnaeth berfformio drama ar themâu’n ymwneud ag ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Yn ôl y Cynghorydd Alun Llewellyn, Dirprwy Arweinydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot a’r Aelod Cabinet dros Ddiogelwch Cymunedol a Gwarchod y Cyhoedd: “Mae’r Criw Hanfodol yn ddigwyddiad amhrisiadwy i sefydliadau allu trosglwyddo negeseuon diogelwch hanfodol i bobl ifanc mewn dull hwyliog o ddysgu. Mae hyn yn cynnwys sicrhau eu bod nhw’n gwybod at bwy i droi os oes rhywbeth yn mynd o’i le, a gwybod sut i ofalu amdanynt eu hunain, eu ffrindiau ac aelodau’r teulu.
“Un o’n blaenoriaethau allweddol yw sicrhau fod plant yn cael eu cadw’n ddiogel, yn iach, yn ymgysylltiedig â’u haddysg. Mae’r Criw Hanfodol yn enghraifft ragorol o’r modd rydyn ni’n gwneud hynny.”
Trefnwyd digwyddiad eleni gan Dîm Diogelwch Cymunedol Cyngor Castell-nedd Port Talbot a chafodd ei noddi gan Tata Steel.








