Ymunodd Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru â dathliadau lliwgar Pride Llanelli ddydd Sadwrn, Gorffennaf 15fed.
Mae cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant wrth wraidd yr hyn y mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yn ei wneud ac maent yn werthoedd sy’n greiddiol i’n prosesau, arferion a diwylliant. Felly, roedd yn bleser cefnogi ac ymuno â dathliad blynyddol Pride Llanelli o’r gymuned LHDTC+, a oedd yn cynnwys gorymdaith trwy ganol y dref yn ogystal ag amrywiaeth o weithgareddau, stondinau ac adloniant yng Nghanolfan Selwyn Samuel.
Yn rhan o Orymdaith Pride Llanelli oedd Injan Dân Pride y Gwasanaeth, aelod lliwgar o fflyd hyfforddi’r Gwasanaeth, ac roedd aelodau o’r Tîm Diogelwch Cymunedol yno hefyd. Er gwaetha’r glaw trwm, roedd gwên ar wynebau pawb oedd yn cymryd rhan yn yr orymdaith wrth iddynt chwifio baneri enfys y Gwasanaeth.
Yn dilyn yr orymdaith, roedd aelodau o Dîm Diogelwch Cymunedol y Gwasanaeth a chriw Gorsaf Dân Llanelli wrth eu stondin yng Nghanolfan Selwyn Samuel i gynnig cyngor a gwybodaeth ar ddiogelwch tân, yn ogystal â nwyddau Pride y Gwasanaeth.
Yn ogystal ag aelodau o gymuned Llanelli, cafodd y tîm hefyd gyfle i groesawu Maer Tref Llanelli, y Cynghorydd Nicholas Pearce, i’w stondin.
Maer Tref Llanelli, y Cynghorydd Nicholas Pearce, yn ymweld â stondin Pride Llanelli GTACGC.
Edrychwn ymlaen at ymuno â Pride Llanelli 2024!












