– Advertisement –
Mighty Web Hosting banner

Caru Sir Gâr? Beth am ddod yn llysgennad iddi?

Cynllun Llysgennad Ambassador Scheme min
Cynllun Llysgennad Ambassador Scheme min

Cynllun Llysgennad Ambassador Scheme min

Mae Cynllun Llysgenhadon Ar-lein wedi’i lansio gan Gyngor Sir Caerfyrddin sy’n darparu cyfle hyfforddiant ar-lein i wella’ch gwybodaeth am y cyfleoedd twristiaeth sydd gan y sir i’w cynnig. O’i thirweddau godidog a’i hanturiaethau awyr agored i’w diwylliant bywiog a’i threftadaeth gyfoethog, mae Sir Gaerfyrddin yn cynnig rhywbeth i bawb ac, fel llysgennad, byddwch yn gallu rhoi cyngor arbenigol i dwristiaid ac ymwelwyr yn y sir neu breswylwyr lleol sy’n chwilio am ddiwrnod allan.

Mae Cynllun Llysgenhadon Sir Gaerfyrddin yn cynnig ystod eang o fodiwlau hyfforddi ar-lein, ar amrywiaeth o themâu, a llu o adnoddau ar-lein. Mae cofrestru i fod yn llysgennad Sir Gaerfyrddin yn syml, yn hawdd ac yn gyfle gwych i ddysgu rhywbeth newydd.

Mae am ddim ac yn agored i bawb. O breswylwyr, gwirfoddolwyr a grwpiau cymunedol lleol i ddarparwyr llety ac atyniadau i’r rhai sy’n gweithio blaen tŷ mewn siop neu gaffi. Mae myfyrwyr, wardeniaid traffig, tywyswyr teithiau a threfnwyr digwyddiadau hefyd yn yn cael eu hannog i fod yn llysgenhadon i ddysgu mwy am nodweddion unigryw ein hardal.

Mae 3 lefel o achrediad – efydd, arian ac aur, yn dibynnu ar nifer y modiwlau sydd wedi’u cwblhau. Bydd gwobrau, gan gynnwys tystysgrifau, yn cael eu hanfon at bawb sy’n cwblhau’r lefelau hyn.

Sir Gaerfyrddin, Sir y Fflint, Ynys Môn a Cheredigion yw’r cyrchfannau diweddaraf i ymuno â Sir Ddinbych i gynnig y cwrs llysgenhadon ar-lein yng Nghymru.

Mae llysgenhadon yn cael eu hannog i gofrestru ar gyfer sawl cwrs i ehangu eu dysgu am Sir Gaerfyrddin a bod yn rhan o gymuned ehangach.

Ymhlith y bobl gyntaf i gofrestru i gynllun llysgenhadon ar-lein Sir Gaerfyrddin mae George Reid, Cadeirydd Fforwm Twristiaeth De Orllewin Cymru a pherchennog Plas Glangwili. Ar ôl cwblhau ei achrediad lefel efydd, dywedodd George:

“Fel rhywun sydd wedi byw a gweithredu busnes twristiaeth yn Sir Gaerfyrddin ers dros 20 mlynedd, cefais fy syfrdanu gyda’r holl wybodaeth, straeon a hanesion nad oeddwn yn ymwybodol ohonynt. Mae’r cwrs wedi’i ysgrifennu’n gynhwysfawr ac wedi’i ysgrifennu’n dda gyda chyfuniad gwych o wybodaeth, ffeithiau a hiwmor.”

Dywedodd y Cynghorydd Gareth John, Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros  Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth:

“Mae Sir Gaerfyrddin yn llawn perlau cudd sy’n aros i gael eu darganfod a dyna pam rydym yn annog cynifer o bobl â phosibl i’n helpu i godi ymwybyddiaeth o’r hyn sydd gan ein hardal i’w gynnig a helpu tuag at wireddu ei photensial mawr.

“P’un a ydych yn gweithio ym maes twristiaeth, lletygarwch neu’n dymuno dysgu rhagor am yr ardal, mae dod yn llysgennad yn ffordd wych o wella’ch gwybodaeth a’ch gwerthfawrogiad o’n sir.

“Mae sector twristiaeth Sir Gaerfyrddin wedi perfformio’n gryf yn dilyn cyfyngiadau Covid-19 gyda thros 2.3 miliwn o ymwelwyr yn ychwanegu £412 miliwn at yr economi leol. Os gallwn annog yr ymwelwyr hyn i ymweld â hyd yn oed fwy o leoedd ar hyd yr arfordir, yng nghefn gwlad, ar safleoedd hanesyddol, anturiaethau egnïol ac ystod anhygoel o siopau bwyd a diod, y mwyaf y byddant am aros, mwynhau, gwario, dychwelyd ac argymell i eraill.

“Er y gallai costau byw cynyddol wneud i bobl ailystyried sut y byddant yn treulio eu hamser gwerthfawr i ffwrdd eleni, mae amrywiaeth enfawr o gyfleoedd hamdden am ddim a hygyrch i deuluoedd, ffrindiau a chyplau fanteisio arnynt ledled y Sir.

“Fel llysgennad i Sir Gaerfyrddin, byddwch yn chwarae rôl allweddol i hyrwyddo hyn.”

I gael rhagor o wybodaeth am Gynllun Llysgenhadon Caerfyrddin neu i gofrestru, ewch i www.llysgennad.cymru

Ydych chi’n chwilio am ychydig o ysbrydoliaeth ar gyfer gwyliau’r Pasg neu ddiwrnod allan? Wedyn ewch i wefan Darganfod Sir Gâr i ddarganfod beth sydd gan ein sir i’w gynnig.

If you like our content,
consider buying us a coffee
to keep our news free

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

Related Posts

If you like our content, consider buying us a coffee to keep our news free

mighty web hosting advert
vhs to dvd ltd advert
Secret Link