– Advertisement –
Mighty Web Hosting banner

Gallai miloedd o fyfyrwyr yng Nghymru gael eu prisio allan o addysg

webversion 1 min
webversion 1 min

webversion 1 min

Mae miloedd o fyfyrwyr chweched dosbarth ac mewn colegau yng Nghymru mewn perygl o gael eu prisio allan o addysg oherwydd grant cynhaliaeth sydd heb gynyddu yn ystod eu bywydau.

Mae UCM Cymru wedi lansio ymgyrch i annog Llywodraeth Cymru i gynyddu’r Lwfans Cynhaliaeth Addysg (LCA) i adlewyrchu costau dysgu ac i ehangu cymhwysedd fel bod gan fwy o fyfyrwyr hawl i’r cymorth hwn.

Grant wythnosol o £30 wedi’i gynllunio i gynnal pobl ifanc 16 i 18 oed yng Nghymru, o gartrefi incwm isel, gyda chostau addysg bellach yw’r LCA.

Ond er gwaethaf y cynnydd sylweddol mewn costau byw dros y ddau ddegawd diwethaf, nid yw’r LCA wedi cynyddu unwaith ers iddo gael ei gyflwyno yn 2004.

Mae tua 17,000 o fyfyrwyr addysg bellach yn dibynnu ar LCA i barhau â’u haddysg, ond yng nghyd-destun yr Argyfwng Costau Byw, nid yw bellach yn addas at y diben.

Heb newid mae miloedd o fyfyrwyr yng Nghymru mewn perygl o gael eu prisio allan o addysg bellach.

Pictured: President Orla Tarn speaking to delegates at NUS Wales Conference 2022.

Dywedodd Orla Tarn, Llywydd UCM Cymru:

“Mae Lwfans Cynhaliaeth Addysg (LCA) yn hanfodol i gynnal pobl ifanc o gefndir incwm isel drwy addysg bellach. Ond nid yw £30 yr wythnos yn ddigonol.

“Hyd yn oed cyn yr Argyfwng Costau Byw, nid oedd LCA yn mynd yn ddigon pell i gynnal myfyrwyr mewn addysg bellach. Mae’r ffaith nad yw wedi cynyddu ers bron i ddau ddegawd yn profi bod angen ei ddiweddaru i adlewyrchu anghenion dysgwyr heddiw.

“Roeddem yn falch o weld Llywodraeth Cymru yn cefnogi cynnig gan ASC Plaid Cymru Luke Fletcher i adolygu LCA.

“Nawr rydym yn eu hannog i gymryd y camau nesaf i sicrhau nad yw pobl ifanc yn cael eu prisio allan o addysg.”

If you like our content,
consider buying us a coffee
to keep our news free

Leave a Reply

Related Posts

If you like our content, consider buying us a coffee to keep our news free

vhs to dvd ltd advert
mighty web hosting advert
Secret Link