– Advertisement –

Cronfa Cydlyniant Cymunedol Canolbarth a De-orllewin Cymru 2022-23

Funder Cronfa 1

Mae gan Dîm Cydlyniant Cymunedol Canolbarth a De-orllewin Cymru gyllid prosiect ar gael, hyd at £1500 i helpu i greu cymunedau cydlynus.

Cydlyniant cymunedol yw’r broses sy’n gorfod digwydd i sicrhau bod gwahanol grwpiau o bobl yn cyd-dynnu’n dda yn yr ardal. Cymuned gydlynus yw ardal lle mae pobl o wahanol gefndiroedd yn rhannu perthnasoedd cadarnhaol, yn teimlo’n ddiogel yn y gymdogaeth, ac yn parchu ei gilydd ac yn rhannu’r un gwerthoedd.

Bydd Cronfa Grantiau Bach Cydlyniant Cymunedol yn cefnogi prosiectau sy’n bodloni un o’r meysydd blaenoriaeth canlynol:

  • datblygu digwyddiadau/mannau diogel i ddod â phobl o bob rhan o gymunedau gwahanol at ei gilydd. Gallai digwyddiadau hyrwyddo integreiddio, gan gynnwys cymunedau newydd fel ffoaduriaid o Wcráin/Syria/Afghanistan ac ati sydd wedi’u hadsefydlu.
  • codi ymwybyddiaeth o ymgyrchoedd neu ddigwyddiadau megis: Wythnos Ymwybyddiaeth o Droseddau Casineb; Wythnos Rhyng-ffydd; Diwrnod Cofio’r Holocost; Diwrnod Rhyngwladol Anableddau; Mis Hanes Pobl Dduon ac ati
  • canolbwyntio ar Droseddau Casineb
  • ymgysylltu â grwpiau amrywiol i hyrwyddo cydlyniant cymunedol a lliniaru tensiynau cymunedol.
  • cefnogi cymunedau ag anghenion megis argyfwng costau byw (e.e. Coginio ar gyllideb, digwyddiadau gydag asiantaethau i roi cyngor ar gyllid ac ati)

Dywedodd Matthew Vaux, Aelod cabinet â chyfrifoldeb am Ddiogelwch Cymunedol: “Mae hwn yn swm defnyddiol o arian i helpu cymunedau ar draws y rhanbarth. Rydym yn annog unrhyw un sy’n credu y byddai hyn o fudd i’w prosiect neu syniad penodol i gyflwyno cais neu o leiaf gysylltu i drafod eich syniad ymhellach.”

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 31 Awst 2022. I gael rhagor o wybodaeth am y Gronfa, cysylltwch â Sarah Bowen ar slbowen@sirgar.gov.uk

If you like our content,
consider buying us a coffee
to keep our news free

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

If you like our content, consider buying us a coffee to keep our news free

Secret Link
Exit mobile version