– Advertisement –

Dathliadau Jiwbilî’r Frenhines yn dechrau 

25 05 2022 tree planting initiative 9436 newsroom

Mae plant ysgol wedi bod yn brysur yn plannu coed ym Mharc Gwledig Pen-bre fel rhan o Ddathliadau Jiwbilî’r Frenhines.

Roedd disgyblion Ysgol Pen-bre wedi cydio mewn rhawiau yn lle’u pennau a’u pensiliau i blannu 70 o goed i nodi Jiwbilî Platinwm Ei Mawrhydi a menter Canopi Gwyrdd y Frenhines.

Mae menter Canopi Gwyrdd y Frenhines a grëwyd i ddathlu Jiwbilî Platinwm Ei Mawrhydi yn gwahodd pobl o bob rhan o’r Deyrnas Unedig i “Blannu Coeden ar gyfer y Jiwbilî” i anrhydeddu arweinyddiaeth y Frenhines o’r Genedl.

Dywedodd y Cynghorydd Gareth John, Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros  Hamdden: “Roedd y plant wrth eu boddau yn plannu coed ac roedd yn gyfle iddynt ddysgu mwy am yr amgylchedd a sut y mae coed yn cyfrannu’n effeithiol at ein hinsawdd.”

Mae cymunedau ledled Sir Gaerfyrddin yn paratoi ar gyfer Gŵyl y Banc pedwar diwrnod ac mae rhywbeth i bawb ei fwynhau gan gynnwys partïon mewn parciau, te prynhawn a phicnic yn yr ardd.

I gael gwybod pa weithgareddau sy’n cael eu cynnal ar draws y sir ar gyfer Jiwbilî’r Frenhines, ewch i’r tudalennau Be sy ‘Mlaen ar wefan Darganfod Sir Gâr https://www.darganfodsirgar.com/

If you like our content,
consider buying us a coffee
to keep our news free

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

If you like our content, consider buying us a coffee to keep our news free

Secret Link
Exit mobile version