– Advertisement –

Ethol Cadeirydd newydd Cyngor Sir Ceredigion

Cyng Ifan Davies Cadeirydd CSC Cllr Ifan Davies CCC Chairman

Cadarnhawyd mai’r Cynghorydd Ifan Davies fydd Cadeirydd newydd Cyngor Sir Ceredigion ar gyfer y flwyddyn i ddod.

Ar ôl cael ei ethol yn Gadeirydd, derbyniodd y Cynghorydd Ifan Davies y swydd ac anerchodd y Cyngor gan ddweud bod dod yn Gadeirydd y Cyngor yn anrhydedd fawr. 

Yn gynghorydd ar ward Tregaron ac Ystrad Fflur, dywedodd y Cadeirydd: “Mae’n fraint cael fy ethol yn Gadeirydd ar Gyngor Sir Ceredigion, a hynny yn ystod blwyddyn arwyddocaol iawn i’m hardal i a’r sir hon wrth i’r Eisteddfod Genedlaethol gael ei chynnal yn Nhregaron ym mis Awst. Edrychaf ymlaen yn fawr at hyrwyddo’r sir yn ystod y digwyddiad hwnnw ac ymhob elfen o’m gwaith dros y cyfnod sydd i ddod.”

Cadarnhawyd hefyd mai’r Cynghorydd Maldwyn Lewis, cynrychiolydd Gogledd Llandysul a Throed-yr-aur, fydd Is-gadeirydd y Cyngor.

Ychwanegodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Bryan Davies: “Hoffwn longyfarch y Cynghorydd Ifan Davies ar gael ei ethol yn Gadeirydd y Cyngor, y Cynghorydd Maldwyn Lewis yn Is-gadeirydd, a diolch yn ddiffuant hefyd i’r Cynghorydd Paul Hinge am ei waith diflino fel y Cadeirydd blaenorol.”

Daw hyn â chyfnod y Cynghorydd Paul Hinge i ben fel y Cadeirydd ar gyfer 2021-2022.

If you like our content,
consider buying us a coffee
to keep our news free

Leave a ReplyCancel reply

If you like our content, consider buying us a coffee to keep our news free

Secret Link
Exit mobile version