– Advertisement –
Mighty Web Hosting banner

Cyngor Sir Caerfyrddin yn cynnig cyfleoedd gyrfa drwy Academi Gofal newydd

Screenshot 2022 06 28 13.01.37
Screenshot 2022 06 28 13.01.37

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi lansio Academi Gofal newydd sy’n cynnig cyfleoedd cyffrous i’r rhai sy’n awyddus i gael gyrfa ym maes gwaith cymdeithasol neu ofal cymdeithasol.

Yn agored i bob oedran, bydd yr Academi yn darparu hyfforddiant, cymorth ac arweiniad i ymgeiswyr llwyddiannus, gan eu galluogi i ennill cyflog wrth ddysgu a dewis llwybr gyrfa sydd fwyaf addas iddynt.

Drwy gyfuniad o addysg a hyfforddiant yn y swydd, mae cyfleoedd amrywiol i archwilio’r amrywiaeth o rolau gofal cymdeithasol a gwaith cymdeithasol sydd ar gael.

Rhaid i bob ymgeisydd fod ag o leiaf ddau TGAU (gradd A* – D) neu gymhwyster cyfwerth mewn Cymraeg, Saesneg neu Fathemateg.

Dywedodd y Cynghorydd Jane Tremlett, yr Aelod Cabinet dros Ofal Cymdeithasol: “Mae ein Hacademi Gofal newydd yn cynnig cyfleoedd gwych i’r rhai sy’n awyddus i gael gyrfa ym maes gofal neu waith cymdeithasol.

Gallai ymgeiswyr llwyddiannus ennill gradd mewn gwaith cymdeithasol neu gymhwyster rheoli lefel pump, ond mae cyfleoedd hefyd drwy gydol y rhaglen i ddod o hyd i rôl arall os nad yw ennill gradd yn addas i chi”.

“Os oes gennych agwedd gadarnhaol a brwdfrydig a’ch bod yn chwilio am y cam cyffrous cyntaf mewn gyrfa newydd yna rydym am glywed gennych a byddem yn croesawu eich cais.”

Ewch i Carmarthenshire.gov.wales/academigofal I gael rhagor o wybodaeth

If you like our content,
consider buying us a coffee
to keep our news free

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

Related Posts

If you like our content, consider buying us a coffee to keep our news free

vhs to dvd ltd advert
mighty web hosting advert
Secret Link