– Advertisement –
Mighty Web Hosting banner

Wales Community Food Distribution launch its first food hub…

Pembroke Hwb Bwyd Ar Agor sign 3
Pembroke Hwb Bwyd Ar Agor sign 3

Mae menter Dosbarthu Bwyd Cymunedol Cymru, a arweinir gan PLANED, wrth ei bodd yn lansio ei hwb fwyd cyntaf ym mis Mehefin. Mae’r prosiect yn annog gwirfoddolwyr i gysylltu â chynhyrchwyr a chyflenwyr bwyd er mwyn gallu mwynhau bwyd iach am bris da.

Bydd hwb Sir Benfro yn lansio 20 Mehefin am 3.30pm yn y Tŷ Foundry. I ddechrau, bydd yr hwb bwyd cymunedol yn Sir Benfro yn cynnig ffrwythau a llysiau ffres gyda’r bwriad o ddatblygu’r amrywiaeth o gynnyrch yn y dyfodol.

Dyma’r cyntaf i agor, ond rydym yn parhau i ddatblygu hybiau ar draws rhanbarth de-orllewin Cymru.

Dywedodd Peter Coleman, sy’n Ymddiriedolwr, ei bod ‘hi’n wych cael hwb bwyd cymunedol yn y Tŷ Foundry! Mae’n gynnig gwych i’r ardal leol – ac yn gyfleus hefyd!’

Mae’r prosiect hwn yn cael ei arwain gan PLANED, ac mae wedi derbyn cyllid drwy Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig, a Llywodraeth Cymru.

Dysgwch fwy ar y wefan isod https://www.communityfood.wales/

If you like our content,
consider buying us a coffee
to keep our news free

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

Related Posts

If you like our content, consider buying us a coffee to keep our news free

vhs to dvd ltd advert
mighty web hosting advert
Secret Link