– Advertisement –
Mighty Web Hosting banner

Codwr arian i ymgymryd â 14 marathon mewn 14 diwrnod ar gyfer uned cemo

Bydd Samantha Lewis o Borth Tywyn yn rhedeg 14 marathon mewn 14 diwrnod i godi arian ar gyfer yr Uned Ddydd Cemotherapi yn Ysbyty Tywysog Phillip.

Bydd y sialens yn dechrau ar 7 Ebrill 2024 ym Marathon Brighton. Bydd Samantha wedyn yn aros dros nos, yn rhedeg marathon arall yn y bore ac yn mynd yn ôl i Borth Tywyn i wneud y 12 arall.

Dywedodd Samantha: “Penderfynais redeg 14 marathon mewn 14 diwrnod oherwydd bod ffrind amser hir fy ngŵr, Wayne Evans, wedi cael diagnosis o ganser y pancreas.

“Yn anffodus bu farw Wayne eleni a derbyniodd ofal yn yr Uned Ddydd Cemotherapi yn Ysbyty Tywysog Phillip.

“Mae fy hyfforddwr rhedeg, Gary Howells, yn fy helpu i gadw ar y trywydd iawn ac yn gwneud yn siŵr fy mod yn gwneud popeth posibl i’m paratoi ar gyfer y sialens. Mae’r ymarfer yn cynnwys dechrau’n gynnar iawn yn y bore er mwyn i mi allu rhedeg cyn gwaith.

“Mae hyfforddiant yn galed ac yn cymryd llawer o amser ond nid yw’n ddim o’i gymharu â’r frwydr y mae cleifion canser yn ei hwynebu. Os oes un peth rydw i’n ei ddysgu i’m mab yw bod yn garedig, meddwl am eraill, gwneud dros eraill a rhoi yn ôl pan allwch chi. Gallwn ni gicio pen-ol canser gyda’n gilydd!”

Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Rydym am anfon pob lwc a diolch enfawr i Samantha wrth iddi ymgymryd â’i her anhygoel. Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”

Cyfrannwch i godwr arian Samantha yma: https://www.justgiving.com/crowdfunding/samantha-lewis-557?utm_source=Facebook&fbclid=IwAR1XOzYeRRSTcR-tZqLyA1yuXCnPxOcrJmJNPxuVhrbSeTjFxmpVPRTpsrI

If you like our content,
consider buying us a coffee
to keep our news free

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

Related Posts

If you like our content, consider buying us a coffee to keep our news free

mighty web hosting advert
vhs to dvd ltd advert
Secret Link